Gair gan y Pennaeth ....
A word from the Headteacher....
Mrs Louise Griffiths
Croeso i Ysgol Gymunedol Cei Newydd
Mae Llywodraethwyr a staff yr ysgol yn gweithio’n ddi flino yn eu hymdrechion i sicrhau bod Ysgol Cei Newydd yn cyrraedd y safonau uchaf posib. Rydym yn falch iawn o’n safonau ac yn anelu am welliant parhaus er lles y disgyblion a’r ysgol gyfan.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod eich plentyn yn hapus.
Mewn awyrgylch hapus a chartrefol bydd plentyn yn datblygu hyd eithaf ei allu.
Welcome to Ysgol Gymunedol Newydd
The governors and staff of the school work tirelessly to ensure that Ysgol Cei Newydd strives to attain the highest standards possible.
We are proud of our achievements and work constantly to raise standards for pupils and improve the school.
We are eager to ensure that your child is happy. It is only in a happy and homely environment that a child will develop and learn to their full potential.
Cofion cynnes/ Kind regards
Mrs Louise Griffiths
(Pennaeth/Headteacher)
Ein Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion
Our Vision, Aims and Objectives
Ein Gweledigaeth, Nodau ac amcanion
Ein nod yw darparu cymuned gefnogol o fewn amgylchedd hapus, lle mae dysgwyr yn cael eu hysgogi a'u herio i gyflawni eu potensial. Credwn y bydd ein pwyslais ar ansawdd a safonau uchel, mewn gwaith ac ymddygiad, yn hybu agwedd gadarnhaol at fywyd a sylfaen gadarn i seilio eu haddysg yn y dyfodol arni.
Yn ein hysgol credwn y dylem. . .
Gweithio'n galed, anelu yn uchel, rhannu a gofalu
Mwynhau dysgu a deall bod dysgu yn bwysig ac yn hwyl.
Credu yn ein hunain ac ymestyn am y sêr.
Dathlu ein llwyddiant.
Parchu ein hunain ac eraill.
Dangos ymddygiad rhagorol a bod yn berson i'w edmygu.
Yn ein hysgol bydd y staff yn . . .
Anelu at ddatblygu pobl ifanc annibynnol a dibynadwy.
Ymdrechu i ddatblygu eu potensial yn llawn yn academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol trwy ddarparu addysgu a dysgu o safon.
Ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu rhagorol a chael y disgwyliadau uchaf.
Cydnabod bod partneriaeth gadarnhaol rhwng rhieni, gofalwyr a staff yn elfen allweddol o godi safonau.
----------------------------------------------
Our Vision, Aims & Objectives
We aim to provide a supportive community within a happy environment, where learners are motivated and challenged to achieve their potential. We believe that our emphasis on quality and high standards, in both work and behaviour, will provide our children with a positive attitude for life and a firm foundation on which to base their future learning.
In our school we believe we should. . .
Work hard, aim high, share and care.
Cherish learning. Understand that all learning is important and fun.
Believe in ourselves and reach for the stars.
Celebrate our success.
Respect ourselves and others.
Show excellent behaviour and good manners and be a person to be admired.
In our school our staff will . . .
Aim to produce independent and reliable young people.
Strive to fully develop their potential academically, personally and socially by providing quality teaching and learning.
Provide excellent teaching and learning opportunities and have the highest expectations.
Recognise that a positive partnership between parents, carers and staff is a key element in raising standards.
Ein Gwerthoedd / Our Values
Mae ysgol Gymunedol Cei Newydd yn gweithio tuag at yr un amcan sef i greu amgylchedd hapus, cartrefol a chefnogol ar gyfer pob unigolyn. Mae’n gymuned ddiogel a chynhwysol lle mae gan bob plentyn yr hawl cynhenid i ddysgu ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i ddarparu cwricwlwm ysbrydoledig a heriol gan sicrhau bod pob un yn cael ei werthfawrogi, yn ffynnu ac yn cyrraedd ei lawn botensial.
Yn ganolog i’n cwricwlwm cynhwysol mae ein hymrwymiad i ddatblygu meddylfryd a pherthnasoedd cadarnhaol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth ar y cyd er mwyn i bawb gyflawni a llwyddo mewn bywyd. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrech ynghyd â charedigrwydd, gonestrwydd a pharch.
Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau annibynnol a chydweithredol a fydd yn galluogi plant i ddod yn feddylwyr moesol ac yn unigolion hyderus a mentrus gan roi cynnig ar bethau a pheidio â chael eu trechu gan gamgymeriadau ond yn hytrach i addasu ac i ddyfalbarhau.
Mae ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hanes fel Cymry yn ganolog i’r cwricwlwm a’r nod yw trwytho’r disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Byddwn bob amser yn ganolbwynt balch a gweithgar o fewn y gymuned. Ein nod yw hybu pwysigrwydd byw bywyd iach a thrafod pryderon amgylcheddol gan annog ein dysgwyr i ofalu am yr amgylchfyd a’u datblygu’n ddinasyddion cyfrifol a meddylgar sydd â dealltwriaeth gref o Hawliau Plant a’u cyfrifoldebau personol.
Trwy gwricwlwm perthnasol a phwrpasol, rydym am sbarduno eu chwilfrydedd ac am danio angerdd at ddysgu.